Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.

26 Chwefror 2015

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch

1.  Aelodaeth y grŵp a swydd-ddeiliaid.

 

Bethan Jenkins AC (Cadeirydd)

Christine Chapman AC

Darren Millar AC

Julie Morgan AC

William Powell AC

Rhodri Glyn Thomas AC

Nick Ramsay AC

Dr John Cox

Jane Harris

Craig Owen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) (Ysgrifennydd)

 

2.  Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf.

 

Cyfarfod 1.

 

Dyddiad y cyfarfod:       20 Tachwedd 2013

Yn bresennol:     Bethan Jenkins AC (Cadeirydd)

Rhodri Glyn Thomas AC

Jocelyn Davies AC

Christine Chapman AC

 

Dr John Cox

Jane Harries, Cymdeithas y Cymod

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

Materion yn ymwneud â Phalestina; OPIN-2013-0186 (Gwrthwynebu aneddiadau anghyfreithlon yn Nhiriogaeth Feddianedig Palestina). Cafodd 17 o lofnodion.

 

Adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru / Sefydliad Heddwch Cymru; anfonwyd yr adroddiad i swyddfa’r Prif Weinidog cyn y trefnir dadl yn ei gylch yn y Senedd.

 

 Adolygiad o Ddigwyddiad Bruce Kent a gynhaliwyd yn y Senedd.

 

 Bradley Manning - mae deg Aelod Cynulliad wedi llofnodi deiseb i gefnogi Bradley.

 

 Rheolau newydd yn ymwneud â Grwpiau Trawsbleidiol.

 

Cyfarfod 2.

 

Dyddiad y cyfarfod:     29 Ionawr 2014

Yn bresennol:    Christine Chapman AC, (Cydgadeirydd)

Bethan Jenkins AC (Cydgadeirydd)

Rhodri Glyn Thomas AC

Robin Lewis (aelod o staff Christine Chapman)

 

Dr John Cox (Ysgrifennydd)

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Ethol Swyddogion; Etholwyd Cydgadeiryddion ar gyfer y Grŵp (a diolchwyd i Jane Harris am ei gwaith fel ysgrifennydd dros dro)

 

Cyllid: Nid oedd dim arian wedi cael ei roi i’r grŵp, ac nid oedd y grŵp wedi gwario dim arian ar luniaeth.

 

Awgrymwyd siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

 


 

  1. Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 


Dim.


 


 

 


Datganiad Ariannol Blynyddol.

26 Chwefror 2015

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch

Bethan Jenkins AC - Cadeirydd

Craig Owen, WCIA - Ysgrifennydd

Treuliau’r Grŵp.

 

Dim.

£0.00

Cost yr holl nwyddau.

 

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddiannau a dderbyniwyd gan y grŵp neu gan Aelodau unigol o gyrff allanol.

 

Ni dderbyniwyd buddiannau.

£0.00

Ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

 

Ni dderbyniwyd cymorth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarperir i’r Grŵp, fel lletygarwch.

 

Talwyd am yr holl luniaeth gan (Amherthnasol).

 

Dyddiad

Disgrifiad o’r darparwr a’i enw

 

Cost

 

 

£0.00

Cyfanswm y costau

 

£0.00